Amdan Aberystwyth

Aberystwyth – tref brifysgol fywiog a chyrchfan gwyliau glan môr boblogaidd ers canrif a mwy, gyda phromenâd a phier; lle delfrydol i aros er mwyn crwydro ar hyd Llwybr yr Arfordir ar hyd glannau Bae Ceredigion. Mae dewis da o lefydd i aros yng nghanol tref Aberystwyth ac yn y cyffiniau, a rhaglen wych o ddigwyddiadau chwaraeon a chelfyddydol rhyngwladol a chymunedol ar hyd y flwyddyn. Cewch fwynhau olygfeydd naturiol godidog Aberystwyth – y machlud, y môr a’r drudwyod yn heidio bob gaeaf – a gwylio myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn ‘cicio’r bar’, traddodiad diddorol ym mhen draw’r promenâd, o dan Graig Glais. Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth, neu’r Coleg ger y Lli, ym 1872, yn yr Hen Goleg trawiadol ben arall y prom.

Aberystwyth yw prif leoliad drama dditectif atmosfferig Y Gwyll

Tref sy’n enwog am ei choleg ger y Lli, a’r beirdd, cantorion ac actorion a fagwyd yma. Dyma ffocws sawl ymgyrch nodedig, a lleoliad rhai o brif sefydliadau a busnesau y Gymru gyfoes.

Mae’r adeiladau ar hyd promenâd Aberystwyth wedi cadw eu cymeriad pensaernïol Fictorianaidd, fel llawer o adeiladau nodedig y dref, yn enwedig y capeli trawiadol, ond mae enwau rhai o strydoedd y dref yn awgrymu ei bod yn llawer hŷn na hynny. Ewch am droo gwmpas y dref i ddarganfod mwy.

Agorwyd Rheilffordd y Clogwyn ym 1896 a dyma’r rheilffordd hiraf o’i bath ym Mhrydain heddiw, yn dringo 778 troedfedd (237 metr) i ben Craig Glais. Yn 1901 agorwyd Rheilffordd Cwm Rheidol er mwyn mynd ag ymwelwyr lan y dyffryn i ymweld â rhaeadrau enwog Pontarfynach.

Mae Aberystwyth yn fan cwrdd cyfleus rhwng y de a’r gogledd, ac yn gyrchfan siopa a noson allan i ardal eang.

Cewch weld perfformiadau a gweithiau gan berfformwyr ac artistiaid o safon fyd-eang yn theatrau, orielau a stiwdios Canolfan Celfyddydau Aberystwyth – un o ganolfannau celfyddyddydol mwyaf Cymru. Yn ogystal â gofodau arddangos, theatr, sinema a neuadd gyngherddau ceir siop lyfrau, siop anrhegion a stiwdios artistiaid. Mae gan Ysgol Gelf y Brifysgol gasgliad arbennig o gelf gain o’r 15fed ganrif i’r cyfoes mewn adeilad yn agos i ganol y dref.

Adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd i’w weld ar draws y dyffryn wrth ddod i mewn i Aberystwyth o’r de. Ond mae’n llawer mwy na llyfrgell a chanolfan academaidd gyda dros 5 miliwn o lyfrau. Cyflwynir arddangosfeydd ar agweddau ar hanes Cymru, ein ffordd o fyw a’n henwogion, gyda deunyddiau o gasgliad aruthrol o luniau, recordiadau, peintiadau ac arteffactau yn ogystal â mapiau, llyfrau, llawysgrifau a deunydd o’r archif ddigidol. Dewch ar daith dywys rad ac am ddim i ddarganfod mwy.

Aberystwyth yw cartref Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cedwir cysylltiadau cryf rhwng Aberystwyth â’i gefeilldrefi Celtaidd ac eraill: St Brieuc yn Llydaw, Esquel ym Mhatagonia a Kronberg yn yr Almaen. Ewch am dro ar hyd y promenâd i weld sawl un o faneri gwledydd lleiafrifol Ewrop y gallwch eu hadnabod.

Mae traddodiadau’n fyw yng Ngheredigion ac mae Amgueddfa Ceredigion yn lle gwych i ddechrau darganfod Ceredigion ddoe a heddiw, gan gynnwys casgliad o ddodrefn a gwisgoedd traddodiadol, lluniau a chelf gyfoes, a rhaglen fywiog o arddangosfeydd, cyngherddau a digwyddiadau eraill. 

Saif castell Aberystwyth yn dyst i hanes hir a chythryblus. Cewch weld muriau cerrig a godwyd gan Edward I wedi iddo oresgyn Llywelyn Ein Llyw Olaf; cofiwch am warchae Owain Glyndwr cyn cipio’r castell ’nôl i’r Cymry ddwy ganrif yn ddiweddarach; dychmygwch fwrlwm bathdy brenhinol Charles I wrth i arian mwynfeydd Mynyddoedd y Cambria gael ei droi’n sylltau; gwelwch y difrod o fomio’r Rhyfel Cartref, ac archwiliwch gerrig yr Orsedd – pob un o ardal wahanol o Gymru

Cydnabyddir mai Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yw un o’r goreuon ym Mhrydain, ac mae siopau annibynnol diddorol yn y dref hefyd yn ogystal â siopau cadwyn y stryd fawr. 

Does dim curo’r dewis o lefydd i fwyta yn Aberystwyth gyda’r caffis, tafarndai a bwytai sydd yn cynnig cinio a byrbrydau yn ystod y dydd. Neu beth am fwynhau noson allan yn un o fwytai Aberystwyth – mae rhywbeth at ddant pawb yn llythrennol: pysgod a sglodion, tapas Sbaeneg, prydau Eidalaidd, Groegaidd neu Asiaidd, neu mwynhewch y dewis ar fwydlenni’r gwestai a’r bwytai ar lan y môr sy’n cynnig coginio modern Cymreig o’r radd flaenaf. 

Nepell o’r dref cewch ddewis ehangach eto – te prynhawn mewn gwesty moethus, neu bryd da o fwyd mewn tafarn bentref gyfeillgar.